Neidio i'r cynnwys

Pan (duw)

Oddi ar Wicipedia
Pan
Enghraifft o'r canlynolduw Groeg, duwdod natur Edit this on Wikidata
Enw brodorolΠάν Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am y lloeren sy'n cylchdroi Sadwrn, gweler Pan (lloeren).

Duw ym mytholeg Roeg oedd Pan (Groeg, Πάν, y cyfan). Roedd ganddo dorso a phen dynol gyda chlustiau, cyrn a choesau gafr.

Cafwyd Pan ei addoli yn arbennig yn Arcadia, er nad oedd temlau mawr iddo yn yr ardal. Roedd yn dduw coedwigoedd, caeau a phreiddiau, ffrwythlonrwydd a gwrywdod. Dywedir ei fod yn ymlid y nymffod yn y coedydd, gan obeithio cael cyfathrach rywiol â hwy. Mewn rhai ffyrdd mae'n debyg i'r duw Dionisus ac roedd yn aml yng nghwmni'r duw hwnnw.

Roedd hefyd yn dduw'r awel, y wawr a'r machlud. Roedd yn byw gyda'r nymffod mewn ogof o'r enw Coriciana ar fynydd Parnassus. Gallai broffwydo'r dyfodol ac roedd yn heliwr a cherddor. Canai'r Siringa neu Bibellau Pan.

Cyn Brwydr Marathon dywedir fod y rhedwr Athenaidd Pheidippides yn rhedeg trwy'r mynyddoedd rhwng Athen a Sparta i ofyn cymorth y Spartiaid yn erbyn y Persiaid. Ar y ffordd cafodd weledigaeth o'r duw Pan, a ddaroganodd fuddugoliaeth i'r Groegwyr yn erbyn Persia. Wedi ennill y frwydr gwnaeth yr Atheniaid Pan yn un o'u prif dduwiau mewn diolchgarwch.

Yn ôl yr hanesydd Groegaidd Plutarch (Moralia, Llyfr 5:17), yr oedd llongwr o'r enw Thamus ar ei ffordd tua'r Eidal yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Rhufeinig Tiberius. Ger ynys Paxi clywodd lais dros y tonnau "Thamus, wyt ti yna? Pan gyrhaeddi Palodes, gwna'n siŵr dy fod yn cyhoeddi fod y duw mawr Pan wedi marw." Gwnaeth Thamus yn ôl y gorchymyn, a daeth ocheneidiau a galaru o'r lan yn ymateb.

Neo-baganiaeth

[golygu | golygu cod]

Ym 1933, cyhoeddwyd The God of the Witches gan Eifftiwr Margaret Murray, gan ddamcaniaethu mai dim ond ffurf o dduw corniog a addolwyd ar draws Ewrop gan gwlt gwrach yw Pan.[1] Dylanwadodd y theori hon y syniad Neo-baganaidd o Dduw Corniog, fel archdeip rhywioldeb a gwrywdod gwrywaidd. Yn Wica, mae archdeip y Duw Corniog yn hynod o bwysig, fel y'i cynrychiolwyd gan dduwdodau megis Cernunnos y Celtiaid a Pashupati yr Indianaid.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ronald Hutton, The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (Oxford University Press, 1999), t.199